contact us | site map | accessibility | copyright |
live simply  

Byw yn Syml

Galw am wir gynnydd, nid twf economaidd yn unig

Mae'r syniad bod Duw yn ein galw i fyw yn syml yn un pellgyrhaeddol ac yn dra gwahanol i beth mae cymdeithas yn y byd gorllewinol yn ei ddisgwyl gennym - sef ennill mwy a mwy o arian er mwyn defnyddio mwy a mwy o bethau.

Mae prosiect byw yn syml, fydd yn cael ei lansio yn yr Adfent ac yn mynd ymlaen trwy 2007, yn ymateb i'r syniad radical hwnnw.  Mae'n galw arnom i edrych yn ddwys ar ein ffordd o fyw a dewis byw'n syml, mewn modd cynaliadwy, gan ddangos cydymdeimlad â'r tlodion.

Nid mater o arian yn unig yw byw yn syml yn yr ystyr hwn.  Mae gormod o bobl a fyddai'n falch o allu byw ychydig yn llai syml nag y maen nhw'n gorfod gwneud, yn ein gwlad ni ac wrth gwrs yn y gwledydd sy'n datblygu.  Yn hytrach, her sydd yma i ni fyfyrio, dathlu a gweithredu er mwyn gweithio dros gyfiawnder a bod yn hapusach o ganlyniad.  Mae'n fater o sylweddoli beth sydd arnom ei angen yn hytrach na cheisio cael mwy - rhannu yn hytrach na chelcio.

Mae llawer o fudiadau o fewn yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr wedi ymroi i fyw yn syml, gan gynnwys (Your Organisation), CAFOD, Cyfiawnder a Heddwch ac Adnewyddiad Carismatig Catholig, gan greu rhwydwaith newydd sy'n benderfynol o drawsffurfio ein cymunedau.

Daw'r ysbrydoliaeth sydd y tu ôl i fyw yn syml o ddogfen broffwydol a ysgrifennwyd gan y Pab Paul VI.  Mae'n gosod allan ddysgeidiaeth gymdeithasol yr Eglwys yn wyneb y tlodi a'r anghyfiawnder sy'n gwaethygu yn y gwledydd sy'n datblygu.  Mae'r ddogfen "Ar Ddatblygiad Pobloedd" (Populorum Progressio) yn alwad glir i ni fyw math newydd o fywyd, mewn ysbryd o undod â'r gymuned, yn seiliedig ar ffydd.

"Bwriadodd Duw y ddaear a phopeth ynddi at ddefnydd dynolryw gyfan a phob cenedl" medd cylchlythyr y Pab, datganiad sy'n cynnig cymaint o her wleidyddol heddiw â phan gafodd ei ysgrifennu, ddeugain mlynedd yn ôl ym 1967.  Mae rhai o'i negeseuon yn anodd iawn i ni eu clywed, er ein bod yn unigolion elusengar sy'n ceisio ymddwyn yn dda.  Sut rydym yn teimlo wrth glywed y gosodiad hwn gan Sant Emrys, er enghraifft?

"Nid rhoi yr hyn sy'n eiddo i chi yn rhodd i'r tlodion yr ydych chi, ond rhoi yn ôl yr hyn sy'n eiddo iddyn nhw... Rydych wedi bod yn dwyn pethau sydd i fod at ddefnydd pawb yn gyffredin."
Mae prosiect byw yn syml yn ceisio adfywio syniadau moesol allweddol o'r fath yn yr Eglwys heddiw.  Ym 1967, edrychodd y Pab Paul VI ar heriau mawr yr oes a beth y dylai'r Eglwys ei wneud yn eu cylch.  Mae'n bwysig ein bod ni yn gwneud yr un peth yn ein hoes ni.

Cymerodd llawer ohonom ran yn yr ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi, a heriai'r anghyfiawnderau yn y drefn sy'n cadw pobl yn dlawd.  Fel cam ymlaen, mae byw yn syml yn edrych ar ein cyfrifoldeb personol i sicrhau trawsffurfiad a newid, ynom ni ein hunain ac yn y byd.  Trwy fyw yn syml, yn gynaliadwy ac mewn cydymdeimlad â'r tlodion, gallwn helpu i greu byd lle mae urddas pobl yn cael ei barchu a lle mae pawb yn gallu cyflawni ei lawn botensial.  Byddai hyn yn gynnydd gwirioneddol, ac yn fwy gwerthfawr na thwf economaidd yn unig.


Harriet Paterson/CAFOD
4.7.06

I wybod mwy cysylltwch ag info@livesimply.org.uk.  Bydd adnoddau ar gael o fis Hydref 2006 ymlaen ar gyfer oedolion a phobl ifainc, i helpu eich plwyf neu'ch grŵp i fyfyrio, i ddathlu ac i weithredu,.