|
|||||||
| you are here: live simply > about live simply > Byw yn Syml | |||||||
|
|
Byw yn SymlGalw am wir gynnydd, nid twf economaidd yn unig Mae'r syniad bod Duw yn ein galw i fyw yn syml yn un pellgyrhaeddol ac yn dra gwahanol i beth mae cymdeithas yn y byd gorllewinol yn ei ddisgwyl gennym - sef ennill mwy a mwy o arian er mwyn defnyddio mwy a mwy o bethau. Mae prosiect byw yn syml, fydd yn cael ei lansio yn yr Adfent ac yn mynd ymlaen trwy 2007, yn ymateb i'r syniad radical hwnnw. Mae'n galw arnom i edrych yn ddwys ar ein ffordd o fyw a dewis byw'n syml, mewn modd cynaliadwy, gan ddangos cydymdeimlad â'r tlodion. Nid mater o arian yn unig yw byw yn syml yn yr ystyr hwn. Mae gormod o bobl a fyddai'n falch o allu byw ychydig yn llai syml nag y maen nhw'n gorfod gwneud, yn ein gwlad ni ac wrth gwrs yn y gwledydd sy'n datblygu. Yn hytrach, her sydd yma i ni fyfyrio, dathlu a gweithredu er mwyn gweithio dros gyfiawnder a bod yn hapusach o ganlyniad. Mae'n fater o sylweddoli beth sydd arnom ei angen yn hytrach na cheisio cael mwy - rhannu yn hytrach na chelcio. Mae llawer o fudiadau o fewn yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr wedi ymroi i fyw yn syml, gan gynnwys (Your Organisation), CAFOD, Cyfiawnder a Heddwch ac Adnewyddiad Carismatig Catholig, gan greu rhwydwaith newydd sy'n benderfynol o drawsffurfio ein cymunedau. Daw'r ysbrydoliaeth sydd y tu ôl i fyw yn syml o ddogfen broffwydol a ysgrifennwyd gan y Pab Paul VI. Mae'n gosod allan ddysgeidiaeth gymdeithasol yr Eglwys yn wyneb y tlodi a'r anghyfiawnder sy'n gwaethygu yn y gwledydd sy'n datblygu. Mae'r ddogfen "Ar Ddatblygiad Pobloedd" (Populorum Progressio) yn alwad glir i ni fyw math newydd o fywyd, mewn ysbryd o undod â'r gymuned, yn seiliedig ar ffydd. "Bwriadodd Duw y ddaear a phopeth ynddi at ddefnydd dynolryw gyfan a phob cenedl" medd cylchlythyr y Pab, datganiad sy'n cynnig cymaint o her wleidyddol heddiw â phan gafodd ei ysgrifennu, ddeugain mlynedd yn ôl ym 1967. Mae rhai o'i negeseuon yn anodd iawn i ni eu clywed, er ein bod yn unigolion elusengar sy'n ceisio ymddwyn yn dda. Sut rydym yn teimlo wrth glywed y gosodiad hwn gan Sant Emrys, er enghraifft? "Nid rhoi yr hyn sy'n eiddo i chi yn rhodd i'r tlodion yr ydych chi, ond rhoi yn ôl yr hyn sy'n eiddo iddyn nhw... Rydych wedi bod yn dwyn pethau sydd i fod at ddefnydd pawb yn gyffredin." Cymerodd llawer ohonom ran yn yr ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi, a heriai'r anghyfiawnderau yn y drefn sy'n cadw pobl yn dlawd. Fel cam ymlaen, mae byw yn syml yn edrych ar ein cyfrifoldeb personol i sicrhau trawsffurfiad a newid, ynom ni ein hunain ac yn y byd. Trwy fyw yn syml, yn gynaliadwy ac mewn cydymdeimlad â'r tlodion, gallwn helpu i greu byd lle mae urddas pobl yn cael ei barchu a lle mae pawb yn gallu cyflawni ei lawn botensial. Byddai hyn yn gynnydd gwirioneddol, ac yn fwy gwerthfawr na thwf economaidd yn unig.
I wybod mwy cysylltwch ag info@livesimply.org.uk. Bydd adnoddau ar gael o fis Hydref 2006 ymlaen ar gyfer oedolion a phobl ifainc, i helpu eich plwyf neu'ch grŵp i fyfyrio, i ddathlu ac i weithredu,. |
||||||
|
|||||||